Reseña del libro "Babel (en Galés)"
'Nofel rymus a chyffrous sydd ag un troed yn y gorffennol a'r llall ar guriad calon y Gymru gyfoes.' Llwyd Owen 'Werth ei ddarllen heb unrhyw amheuaeth.' - Catrin Beard Nefi, dwi'n mwynhau hon. Stori sy'n gwau a throi corneli annisgwyl. Clincar o nofel agerstalwm (steampunk)' - Bethan Gwanas 'Newydd orffen darllen y drên wib yma o nofel ac yn teimlo'n reit fyr fy ngwynt! Llongyfarchiadau fil Ifan Morgan Jones. Sgwennu disglair, a chymaint i gnoi cil arno. Wrth fy modd efo'r elfen newyddiadurol ynddi.' - Annes Glynn 'Rwy'n annof pawb i fynd i'r afael â Babel. Mae'n swmpus, ond yn ein tynnu i mewn i'w byd yn fedrus. Nid yw fyth yn brin o antur a difyrrwch a digrifwch, ac mae hi hefyd yn trin a thrafod ystôr eang o synaidau a chwestiynau deallusol difyr mewn modd na fydd yn colli neb. Yn hynny o beth, mae hi'n cyflawni cryn gramp.' - Llyr Gwyn Lewis, Y Cymro 'Mae'n ddifyr tu hwnt, yn gyffrous... bobl bach mae hi'n carlamu ymlaen. - Ion Thomas, Y Silff Lyfrau Nofel ddirgelwch ddarllenadwy a chyffrous, wedi ei lleoli mewn tref ddiwydiannol yn ail hanner y 19eg ganrif. Mae'r prif gymeriad Sara yn dianc o afael ei thad sy'n weinidog alcoholig, ac yn dod i'r dre, wedi gweld hysbyseb am swydd newyddiadurol yng ngwasg Joseph Glass, dyn busnes rhyddfrydol a golygydd papur newydd Llais y Bobol. Fast-paced mystery set in an industrial town in the second half of the 19th century. The main character, Sara, escapes from her fath er, an alcoholic minister and comes to the town having seen an advert for a job as a journalist in Henry Glass's press, a business m an and a editor of newspaper, Llais y Bobol.